Y canlyniadau blaenoriaeth a ddynodwyd drwy ymgysylltu gyda dinasyddion, partneriaid a defnyddio’r matrics blaenoriaeth, ac a gadarnhawyd yn ddilynol drwy ymgynghoriad yw:

  1. Gwella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth drwy ymyriad cynharach, cefnogaeth seiliedig yn y gymuned a lleoliadau yn nes adref.
  2. Sicrhau iechyd meddwl a llesiant emosiynol da ar gyfer plant a phobl ifanc drwy weithio partneriaeth effeithlon.

 

Blaenau Gwent welodd y cynnydd uchaf dros y cyfnod 2012 i 2016, tra bu’r gostyngiad mwyaf yng Nghaerffili a Thorfaen. Mae’r gyfradd wedi parhau bron yr un fath ar gyfer Cymru dros y cyfnod 2012 i 2016.

 

 

 

 

 

 

Ar 31 Mawrth 2016 ar draws rhanbarth Gwent roedd hyn yn amrywio o 72 fesul 10,000 o’r boblogaeth yng Nghaerffili i 142 fesul 10,000 o’r boblogaeth yn Nhorfaen. Mae hyn yn cymharu gyda 90 fesul 10,000 o’r boblogaeth ar gyfer Cymru ar 31 Mawrth 2016.

 

 

 

Gall bod mewn gofal fod yn anodd ond gallwn helpu pobl eraill drwy rannu ein profiadau fel y gwyddant fod rhywun sy’n deall beth maen nhw’n mynd trwyddo

Aelod Fforwm Ieuenctid

Crynodeb a’r hyn y byddwn yn ei gyflenwi drwy’r Cynllun Ardal rhanbarthol:

  • Cefnogi adolygiad y Bwrdd Partneriaeth Plant a Theuluoedd o drefniadau lleol ar gyfer plant gydag anghenion cymhleth a chyflenwi rhaglen waith gyda ffocws ar blant sy’n derbyn gofal.
  • Modelau ymarfer cyson ac alinio rhaglenni ymyriad cynnar ac ataliaeth Llywodraeth Cymru.
  • Datblygu a chyflenwi cynllun gweithredu rhanbarthol ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gyda ffocws ar ymyriad cynharach a chefnogaeth iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc drwy asedau cymunedol