Y canlyniadau blaenoriaeth a ddynodwyd drwy ymgysylltu gyda dinasyddion, partneriaid a defnyddio’r matrics blaenoriaethu, ac a gadarnhawyd yn ddilynol drwy ymgynghoriad yw:

  1. Gwella llesiant emosiynol pobl hŷn drwy ostwng unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol gydag ymyriad cynharach a chydnerthedd cymunedol.
  2. Gwella canlyniadau ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.
  3. Tai a llety addas ar gyfer pobl hŷn.

 

 

 

Dengys y rhagwelir cynnydd yn nifer y bobl ym mhob ardal awdurdod lleol yn rhanbarth Gwent. Mae’r cynyddu’n amrywio rhwng 62.1% ym Mlaenau Gwent i 97.1% yn Sir Fynwy dros y cyfnod 2013 i 2035.

 

 

 

 

 

Rhagwelir cynnydd ym mhob ardal awdurdod lleol ar draws rhanbarth Gwent. Mae’r cynnydd a ragwelir yn amrywio o 44.9% ym Mlaenau Gwent i 76.8% yn Sir Fynwy.

 

 

Pan ges i ddiagnosis o dementia fe es i’n isel a gadewais i ddim mo’ nghartref, ond y peth gorau a ddigwyddodd i fi oedd cwrdd â rhywun arall a oedd yn byw gyda dementia ac a oedd yn deall yr hyn yr oeddwn i’n mynd trwyddo. Rwy nawr yn brysur iawn diolch iddi hi.

Aelod Caffi dementia-gyfeillgar

Crynodeb a’r hyn y byddwn yn ei gyflenwi drwy’r Cynllun Ardal rhanbarthol:

  • Datblygu dull seiliedig ar le ‘Gofal yn Nes at y Cartref’ yn cynnwys cyflenwi cysylltwyr cymunedol yn gyson ar draws y rhanbarth i ostwng arwahanrwydd cymdeithasol.
  • Datblygu ‘Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia’ ymhellach.
  • Datblygu proses gyd-gomisiynu gofal yn y cartref gyda’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol ac yn gysylltiedig gydag Adroddiad ‘Uwchben a Thu Hwnt’ Safonau Cenedlaethol Gwella Cymdeithasol Cymru a’r Cynllun Strategol ‘Gofal a Chymorth Adref’ a ddatblygir ar hyn o bryd gan Gofal Cymdeithasol Cymru.