Mae ‘Gwent’ Fwyaf yn derm a ddefnyddir i gyfeirio at y pum ardal awdurdod lleol: Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen. Mae Gwent yn manteisio o gael yr un ardal ddaearyddol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’r ddemograffeg yn amrywiol ac yn cynnwys ardaloedd gwledig, canolfannau trefol a’r mwyaf dwyreiniol o gymoedd de Cymru.

Mae Blaenau Gwent wedi ei lleoli yng nghymoedd de ddwyrain Cymru ac mae ganddi arwynebedd o tua 10,900 hectar gyda phoblogaeth o 69,674. Mae gan yr ardal ofodau gwyrdd hygyrch a gweithio cymunedol agos ond mae’n ardal gyda lefelau uchel o ddiweithdra a chanran uchel o bobl sy’n dibynnu ar fudd-daliadau.

Caerffili sydd â’r boblogaeth fwyaf yng Gwent o 179,941. Mae pobl wedi gwasgaru’n eang mewn hanner cant o drefi bach a phentrefi gyda’r prif aneddiadau yn bennaf yn adlewyrchu treftadaeth glofaol cyfoethog yr ardal. Mae gan Gaerffi li economi sy’n ehangu a chysylltiadau trafnidiaeth da i Gaerdydd ond mae lefelau sylweddol o ddiweithdra ac afiechyd.

Caiff Sir Fynwy ei chyfrif fel ‘ardal hygyrch lled-wledig’. Mae pedair prif dref gyda chyfanswm poblogaeth o 92,336. Sir Fynwy sydd â’r lefel isaf o ddiweithdra yng Ngwent: fodd bynnag mae pocedi o amddifadedd.

Dinas Casnewydd w’r ganolfan drefol drydedd fwyaf yng Nghymru o 146,841. Y ddinas sydd â’r ail nifer fwyaf o bobl o gymunedau lleiafrif ethnig o holl siroedd Cymru (yn dilyn Caerdydd) ac mae wedi parhau i gynyddu ers 2011 pan amcangyfrifwyd fod y ffigur rhwng 6 a 6.6% o'r bobloagaeth.

Torfaen yw’r mwyaf dwyreiniol o gymoedd trefol de Cymru gyda phoblogaeth o 91,609. Mae tair canolfan drefol: Pont-y-pŵl, Blaenafon a Chwmbrân. Cofnodwyd y nifer fwyaf o garafanau teithwyr yn Nhorfaen yn ystod Cyfrifiad Dwyfl ynyddol Sipsiwn a Theithwyr 2016 gyda chyfanswm o 61, oedd yn 41% o gyfanswm Gwent.

Pwyntiau allweddol:

  • Rhagwelir y bydd y boblogaeth yn cynyddu gan 4.1% o tua 577,100 yn 2011 i 601,000 yn 2036. Gwelir y cynnydd mwyaf yng Nghasnewydd gydag amcangyfrif cynnydd o 17.3% (145,800 i 170,900), Caerffili 2%, Torfaen 1.1%. Amcangyfrifi r y bydd poblogaeth Blaenau Gwent yn gostwng gan - 6.6% a phoblogaeth Sir Fynwy yn gostwng gan -1.3%. Yr amcangyfrif gostyngiad ym Mlaenau Gwent yw’r mwyaf ymysg y boblogaeth yng Nghymru.
  • Rhagwelir cynnydd sylweddol yn y boblogaeth oedran dros 65 oed pan amcangyfrifi r y bydd 1 mewn 4 o bobl (26%) yn 65 neu hŷn - sy’n fras debyg i Gymru.
  • Erbyn 2036, amcangyfrifi r y bydd nifer y bobl 85 oed a throsodd yn cynyddu gan 147% (o tua 13,000 yn 2011 i 32,000 yn 2036).

Poblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - data allweddol

  • Yn 2014, roedd tua 1 mewn 5 o breswylwyr dros 65 oed (19%), 6 ym mhob 10 (62%) o oedran gwaith (16 i 64 oed) a bron 1 mewn 5 (19%) dan 16 oed.
  • Mae’r boblogaeth dan 16 oed wedi gostwng gan 2,700 (1%) rhwng 2005 a 2014, o 114,1000 i 108,300.
  • Bu gostyngiad sylweddol yng nghyfradd marwoldeb pobl dan 75 o 17.1% ar gyfer dynion a 17.4% ar gyfer menywod (gwelliant uwch nag yng Nghymru). Mae hyn yn dangos yr effeithiau cadarnhaol a’r gwelliannau sylweddol a gafodd ystod o wasanaethau, gweithgareddau a rhaglenni wedi’u targedu i ostwng cyfraddau marwoldeb.
  • Mae’r gyfradd ffrwythlondeb gyffredinol yn fras debyg i’r un yng Nghymru - ond mae gwahaniaethau yn y cyfraddau ffrwythlondeb cyffredinol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fydd yn effeithio ar gynllunio gwasanaethau mamolaeth a phlant - yn arbennig ar gyfer Casnewydd a Sir Fynwy.

Y Gymraeg

Nod fframwaith strategol ‘Mwy na geiriau’ yw gwella darpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng fl aen ar gyfer siaradwyr Cymraeg, eu teuluoedd a gofalwyr. Yn unol ag egwyddorion y fframwaith, bydd y systemau cynllunio rhanbarthol yn cynnwys cyfeiriad at broffi l ieithyddol cymunedau lleol a sicrhau y caiff hyn ei adlewyrchu mewn darpariaeth gwasanaeth.

Mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus lleol wedi cwblhau proffil cymunedol Cymraeg manwl i’w gynnwys yn yr Asesiad Llesiant lleol ym mhob ardal, ac nid yw’r Asesiad Anghenion Poblogaeth hwn yn dyblygu’r wybodaeth. Bydd yr Asesiad yma’n defnyddio’r proffil i ddynodi’n effeithlon y camau sydd eu hangen i gyfl awni’r ystod a lefel y gwasanaethau y dynodwyd fod eu hangen drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd datblygu’r Cynllun Ardal Rhanbarthol yn gosod y camau gweithredu allweddol sydd eu hangen i sicrhau y gall pobl sydd angen gwasanaethau gofal a chefnogaeth gael mynediad i gefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym eisoes wedi cymryd camau drwy sicrhau bod asesiadau - cymesur a/neu gynllunio gofal a chefnogaeth - yn cynnwys y ‘cynnig gweithgar’ i sgwrsio drwy gyfrwng y Gymraeg a chaiff ei ofyn ar y pwynt cyswllt cyntaf o fewn awdurdodau lleol (mae hyn yn ymestyn i ddrysau blaen gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth a bydd hefyd yn cynnwys camau asesiad integredig). Byddwn hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr datblygu gweithlu i sicrhau fod cefnogaeth ddigonol ar gael yn Gymraeg ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.