Y canlyniadau blaenoriaeth a ddynodwyd drwy ymgysylltu gyda dinasyddion, partneriaid a defnyddio matrics blaenoriaethu ac a gadarnhawyd yn ddilynol drwy ymgynghori yw:

  1. Cefnogi pobl gydag anableddau dysgu i fyw’n annibynnol gyda mynediad i wasanaethau ymyriad cynnar yn y gymuned a mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o anghenion pobl gydag anableddau dysgu.
  2. Rhoi diagnosis mwy amserol o Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig a mynediad i wasanaethau cymorth a gwybodaeth a chyngor.

 

 

 

Rhagwelir y bydd pob ardal awdurdod lleol ar draws y rhanbarth yn gweld cynnydd yn y nifer. Mae’r cynnydd a ragwelir yn amrywio o 35.4% ym Mlaenau Gwent i 54.5% yn Sir Fynwy.

 

 

 

 

 

Ar draws awdurdodau lleol yn rhanbarth Gwent, ac eithrio Blaenau Gwent, rhagwelir y bydd pob ardal awdurdod lleol yn gweld cynnydd yn y nifer. Ar draws gweddill yr ardaloedd awdurdod lleol yn rhanbarth Gwent, mae’r cynnydd a ragwelir yn amrywio o 2.1% yn sir Fynwy i 17.7% yng Nghasnewydd.

 

 

Rydym eisiau byw yn ein cartrefi ein hunain a theimlo fod gennym lais ac eisiau mwy o sgyrsiau wyneb i wyneb.

Aelod Mynediad i Bawb

Crynodeb a’r hyn y byddwn yn ei gyflawni drwy’r Cynllun Ardal rhanbarthol:

  • Cefnogi’r Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu i adolygu Strategaeth Gwent ar gyfer Oedolion gydag Anabledd Dysgu 2012/17 a gosod camau gweithredu allweddol ar gyfer comisiynu ac integreiddio rhanbarthol.
  • Gweithredu Cynllun Gweithredu Strategol Cymru yn lleol yn cynnwys datblygu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig newydd.